Pwy ydym

Mae COS yn elusen anableddau sydd ers rhai blynyddoedd wedi cefnogi pobl â cholled synhwyraidd a dyna lle y datblygodd ei gwasanaethau gwneud sgiliau a darparu gwybodaeth yn y ffordd fwyaf hygyrch. Felly pobl sydd â cholled synhwyraidd yw yr rhai sydd yn fyddar neu yn ddall, ond hefyd yn drwm eu clyw neu sydd â nam ar eu golwg. Pobl eraill a allai fod ag angen mynediad yw yr rhai sydd ag angen dysgu ychwanegol, neu ryw un ag angen llythrennedd. Nawr efallai y bydd gennych golled synhwyraidd neu efallai y bydd rhywun rydych chi yn adnabod hefo. Efallai eich bod hefyd yn adnabod rhywun sydd ag anghenion eraill ond beth os nad ydych chi? Pam ei fod yn bwysig i chi?

Gadewch i ni gymryd colled synhwyraidd gall effeithio ar unrhyw un. Yn ifanc neu yn hen gallwch gael eich geni neu golli synnwyr ar unrhyw adeg. Sut brofiad yw hynny?

Yn aml gellir trin plant sydd â cholled synhwyraidd sydd yn effeithio ar glyw neu olwg fel pe bai ganddynt anawsterau dysgu lle dylai eu disgwyliadau dysgu fod yr un fath ag ar gyfer unrhyw blentyn arall. Mae colli synhwyraidd yn golygu y bydd rhywfaint o ddysgu yn wahanol i blant eraill, ond yn yr un modd, gan fod angen i bob plentyn ddysgu rhywbeth gwahanol. Mae'n ymwneud â mynediad.

Mae'r fideo ymwybyddiaeth Byddar fer hon yn cynnwys Catrin ac Abi. Chwiorydd, sydd yn dysgu, yn tyfu ac yn chwarae gyda'i gilydd. Gall Catrin glywed ond mae ei chwaer fach Abi yn fyddar. Fodd bynnag, nid yw hyn yn newid eu perthynas. Maent yn dod ymlaen ac yn adnabod anghenion ei gilydd. Wedi'i wneud i blant ddysgu mwy am fod yn Fyddar, mae'n fideo y gallwn ni i gyd ddysgu rhywbeth ohono.


Dyma un o'r pethau y mae COS yn ei wneud. Mae creu adnoddau fel hyn yn caniatau i blant â cholled synhwyraidd y mynediad mwyaf oll. Mynediad at blant eraill a byd nad yw yn eu heithrio rhag chwarae a dysgu. Gallwch wylio yr fideo hwn yn Saesneg yma a gyda BSL yma

Gall colli synhwyraidd fod yn rhywbeth sydd yn datblygu oherwydd damwain, salwch neu yn gyffredin, henaint. Gall fod yn brofiad dwys nid yn unig colli synnwyr ond ei gael yn ôl hefyd. Dyma Stori Sandra.





Mae gan bob un ohonom hawl i wybodaeth, yn enwedig pan mai hon yw yr wybodaeth fwyaf sylfaenol y mae rhai pobl yn ei chymryd yn ganiataol. Mae COS yn helpu i wneud hynny. Mae ein gwasanaethau yn cefnogi ystod o anghenion ac yn awr yn darparu gwasanaethau i blant er mwyn caniatau iddynt gyrchu gwybodaeth mewn ffordd y maent yn ei ddeallt. Mae COS yn cyflawni hyn gyda gweithwyr cymorth hyfforddedig, hyfforddiant ac addysgu pwrpasol a chynhyrchu cyfryngau safonol y diwydiant i sicrhau bod pobl yn cyrchu yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt.