Mae Byw’n Dda gyda Cholled Clyw yn brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cefnogi pobl â cholled Clyw ledled Cymru.
Gwasanaeth Ôl Diagnostig – cefnogi’r rhai sydd wedi cael diagnosis o golled clyw neu dinitws yn y 18 mis diwethaf gyda 3 sesiwn am ddim.
Gwasanaeth Gartref – yn cefnogi unrhyw un sydd wedi colli clyw yn eu cartrefi i gael y wybodaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i wneud eu dewisiadau gwybodus eu hunain am eu colled clyw.
Gwasanaeth Cyfeillio – mae ein gwasanaeth a arweinir gan wirfoddolwyr yn cynnig 10 sesiwn cyfeillio drwy’r post, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.