Hyfforddiant Ymwybyddiaeth DPP

Ar wahân i'r pecyn cyfryngau sydd ar gael fel cymorth byddwn hefyd yn darparu hyfforddiant ar-lein pwrpasol. Bydd y pecyn ymwybyddiaeth o nam ar y synhwyrau hwn yn cael ei gynhyrchu mewn tair iaith. Cymraeg, Saesneg ac IAP. Bydd ganddo hefyd ddarpariaeth ysgrifenedig a Chlywedol sy'n golygu mai hwn fydd y pecyn mwyaf cynhwysol yng Nghymru a'r DU yn ehangach.

Bydd yn golygu y gallai pob gweithiwr a gwirfoddolwr, beth bynnag fo’u hangen mynediad, gael mynediad at hyfforddiant a fydd yn cefnogi ymwelwyr o bob rhan o’r DU. Bydd hefyd yn gwrs wedi'i farcio ag ansawdd trwy Agored sy'n golygu y bydd yn cymhwyso tuag at DPP.