Mae gwirfoddoli yn agwedd bwysig ar bob cymuned. Mae gwirfoddolwyr yn bobl sy'n cyfrannu eu hamser, egni a sgiliau yn anhunanol er budd ein cymuned.


Sut mae ein gwirfoddolwyr yn ein helpu:

  • Cefnogi pobl mewn lleoliadau gofal preswyl
  • Cymryd rhan yn ein paneli ymchwil
  • Darparu cymorth cynnal a chadw cymorth clyw
  • Rhedeg stondin gwybodaeth
  • Rhedeg neu cynnal grŵp cymorth cymheiriaid
  • Rhoi cefnogaeth cyfryngau cymdeithasol
  • Ymgyrchu i gael gwell mynediad at wasanaethau
  • Dosbarthu taflenni i feddygfeydd
  • Arwain neu cymryd rhan mewn Sgwad Ymgyrch
  • Gosod caniau casglu mewn siopau lleol
  • Cynnal casgliadau codi arian ar y stryd fawr neu mewn man cyhoeddus
  • Darparu astudiaeth achos bersonol
  • Cyflawni ‘bag pack’ mewn archfarchnad i godi arian
  • Bod yn llysgennad Gwirio Clyw
  • Gwneud cyflwyniad neu siarad yn gyhoeddus am yr achos
  • Ysgrifennu i'ch papur newydd lleol am ein hymgyrchoedd
  • Cynnal digwyddiad codi arian lleol
  • Stiwardio mewn marathon neu ddigwyddiadau eraill
  • Gwneud cyfweliadau â phapurau newydd, radio a theledu
  • Siarad neu ysgrifennu at ASau am ein hymgyrchoedd

Eich rôl


Beth bynnag yweich rôl gwirfoddoli, rydych chi yn llysgennad pwysig sydd yn cynrychioli yr elusen. Pan fyddwch chi yn cwrdd ag aelodau o'r cyhoedd, bydd yr hyn rydych chi yn ei ddweud am ein gwaith yn helpu i ddylanwadu ar gefnogaeth.

Fel elusen, dim ond diolch i'r rhoddion a'r rhoddion mewn ewyllysiau y mae yr cyhoedd mor garedig yn eu rhoi inni y mae llawer o'n gwaith yn bosibl. Anogwch bobl i gefnogi ein gwaith ym mha bynnag ffordd mae nhw yn gallu

Gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn cario ychydig o gopiau o einn taflen sydd yn esbonio yr gwaith rydyn ni yn ei wneud a sut y gall pobl ein helpu ni.

Rhoddir y taflenni hyn i chi yn ystod eich hyfforddiant sefydlu.

Beth rydym ni yn ei gynnig a'r hyn rydyn ni yn ei ofyn


Fel gwirfoddolwr, rydych chi yn rhoi eich amser, profiad ac ymrwymiad i ni am ddim. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ni ac rydym yn ei werthfawrogi yn fawr. Rydyn ni am i chi fwynhau eich amser yn gwirfoddoli gyda ni, felly byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau eich bod chi bob amser yn cael cynnig:

  • Parch a thriniaeth gyfartal
  • Croeso cynnes i Center of Sign-Sight-Sound ac i'ch prosiect
  • Cyflwyniad cyfeillgar a llawn i'ch rôl gwirfoddol
  • Disgrifiad clir o'ch rôl a'r hyn y mae'n ei olygu
  • Gwaith gwirfoddol gwerthfawr a diddorol i'w wneud
  • Y gwybodaeth sydd ei hangen arnoch chi
  • Yr hyfforddiant sydd ei angen arnoch chi
  • Cefnogaeth a chydnabyddiaeth i'ch gwaith

       Treuliau parod a theithio

  • Amgylchedd diogel, hygyrch i wirfoddoli ynddo
  • Cyfle i roi cynnig ar amrywiaeth o rolau gwirfoddol.

Er mwyn sicrhau bod ein prosiectau gwirfoddol yn llwyddiannus, gofynnwn ichi:

  • Gweithio i'n gwerthoedd cyffredin
  • Darllen eich disgrifiad rôl gwirfoddolwr yn ofalus
  • Cwbwlhau unrhyw hyfforddiant sydd ei angen
  • Dilynein canllawiau bob amser wrth wirfoddoli
  • Dywed wrthym os oes gennych broblem
  • Bydd mor ddibynadwy ag y gallwch - ceisiwch fod ar amser a dywedwch wrthym bob amser a fyddwch yn hwyr neu yn methu ei wneud
  • Cefnogi gwirfoddolwyr eraill
  • Dilyn ein canllawiau iechyd a diogelwch bob amser
  • Cadw yr holl wybodaeth gyfrinachol yn gwbl gyfrinachol
  • Rhoi unrhyw syniadau ac adborth a allai fod gennych am wirfoddoli

Yn bwysig, rydyn ni am i chi fwynhau eich amsaer yn gwirfoddoli a sicrhau ei fod yr un mor ysbrydoledig i chi ag y bydd i'r bobl rydych chi yn eu helpu. Os ydych chi eisiau gwybod mwy am ymuno â'r tîm a gwirfoddoli i COS, cysylltwch â ni.