Michael Ford
Cydlynydd Gwirfoddolwyr Byw'n Dda gyda Cholled Clyw

De Cymru

Michael yw Cydlynydd Gwirfoddolwyr y Prosiect Byw'n Dda gyda Cholled Clyw ac mae wedi'i leoli yn Ne Cymru.

Gwirfoddoli yw sylfaen y gwasanaeth cyfeillio a gynigir trwy'r prosiect. Caiff gwirfoddolwyr eu paru ag unigolion sy’n ceisio cymorth oherwydd unigrwydd neu ynysigrwydd cymdeithasol sy’n F/fyddar, sydd â cholled clyw a/neu tinitws.

Mae Michael yn gweld bod rhodd o amser trwy wirfoddoli yn hanfodol i ymestyn cyrhaeddiad a lefel y gefnogaeth ar gyfer ein defnyddwyr gwasanaeth, a gall gwirfoddoli fod ar ffurf cyfres o alwadau ffôn, llythyrau, cyfarfodydd rhithwir neu wyneb yn wyneb.

Gwaith y cydlynydd gwirfoddolwyr yw sicrhau bod ein gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi a'u cefnogi yn eu rôl. Mae gan Michael gyfoeth o brofiad fel rheolwr gwirfoddol trwy ei yrfa yn y trydydd sector a dechreuodd weithio gyda thîm Byw’n Dda drwy’r RNID yn 2022 cyn ymuno â’r cwmni yn 2023.